Yn yr adran hon, gallwch weld ein hadroddiadau ymchwil a pholisi penodol i Gymru a chael gwybodaeth am sut i gyflogi ASH Cymru fel ymgynghorydd neu gydweithio gyda ni mewn partneriaeth ymchwil.
I gael mwy o wybodaeth am ein gwaith ymchwil a pholisi cysylltwch â ni ar 029 2049 0621 neu enquiries@ashwales.org.uk.
Mae ein gwaith ymchwil diweddar a pharhaus yn cynnwys:
- Cost economaidd smygu i fusnesau yng Nghymru Ariannwyd yr adroddiad hwn gan Sefydliad Prydeinig y Galon. Cyhoeddwyd Hydref 2012
- Arolwg ar smygu ymysg pobl ifanc 2011
- Arolwg o farn y cyhoedd gan YouGov 2011
- Adroddiad ar ymgyrch Diwrnod Dim Smygu yng Nghymru a gyflawnwyd gan work2health Ltd. Awst 2011.
- Adroddiad ar Smyglo Tybaco yng Nghymoedd De Cymru. Ariannwyd yr adroddiad hwn gan Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru. Cyhoeddwyd 2010.
- Cost smygu i’r GIG yng Nghymru : adroddiad ar economeg a gomisiynwyd gan ASH Cymru trwy Brifysgol Abertawe ac a ariannwyd gan Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru.
- Proffil Smygu ac Iechyd yng Nghymru 2008. Cynhyrchwyd gan ASH Cymru, mewn partneriaeth gydag Athrofa y Gymdeithas ac Iechyd Caerdydd.