Quantcast

Rhwydwaith Tybaco neu Iechyd Cymru

Mae Rhwydwaith Tybaco neu Iechyd Cymru yn gyfle i bob unigolyn yng Nghymru sydd â diddordeb mewn tybaco ac, yn wir, â diddordeb ym mhenderfynyddion ehangach iechyd ac anghydraddoldebau iechyd. Mae yna fwyfwy o ymchwil i’r cysylltiadau rhwng defnyddio tybaco ac amrywiaeth fawr o faterion eraill sy’n ymwneud ag iechyd a lles, a mwyfwy o ddealltwriaeth o’r cysylltiadau hyn. Ni fydd y Rhwydwaith yn canolbwyntio ar reoli tybaco yn unig ond hefyd ar y materion ehangach sy’n ymwneud â defnyddio tybaco. Er enghraifft:

  • Y cysylltiad rhwng defnyddio tybaco ac yfed mwy o alcohol
  • Sut mae defnyddio tybaco’n cyfrannu at dlodi plant
  • Y cysylltiad rhwng defnyddio tybaco ac iechyd meddwl
  • Sicrhau y gall grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a grwpiau heb unrhyw gynrychiolaeth o gwbl gael gwasanaethau hybu iechyd a thriniaeth
  • Mynd i’r afael ag ymddygiadau risg lluosog ymysg pobl ifanc

Mae’r Rhwydwaith yn agored i unigolion ac nid yw’n cynrychioli sefydliadau. Mae croeso i aelodau o amrywiaeth fawr o sefydliadau a sectorau gan gynnwys cynrychiolwyr o’r byd academaidd, y gymuned, addysg, Llywodraeth, gofal iechyd, byd diwydiant, llywodraeth leol, y cyfryngau, iechyd y cyhoedd, y GIG a’r sectorau preifat a gwirfoddol.

Mae yna nifer enfawr o fuddion i ymaelodi â’r Rhwydwaith – ac, yn hollbwysig yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae aelodaeth am ddim. Bydd y Rhwydwaith yn bodoli i gynorthwyo’r aelodau trwy ddarparu a gwella’r gallu i gael gwybodaeth a thrwy ddarparu fforwm i rannu gwybodaeth ac arferion da, gan alluogi’r aelodau i ddysgu oddi wrth ei gilydd.


Sut i ymaelodi â’r Rhwydwaith

I ymaelodi â Rhwydwaith Tybaco neu Iechyd Cymru, llenwch y ffurflen aelodaeth a’i hanfon trwy un o’r dulliau canlynol:

  1.  E-bost at enquiries@ashwales.org.uk
  2.  Ffacs i 029 2048 5749   
  3.  Post at WTHN, 2il Lawr, 14-18 Heol y Ddinas, Caerdydd, CF24 3DL
membership_form.doc Download

Ash Wales is supported by

 Wales Council for Voluntary Action      img   Millennium Volunteers    Welsh Government