Quantcast

Rhoi'r Gorau i Ysmygu

Gwybodaeth i Ysmygwyr

Mae’r rhan fwyaf o ysmygwyr yn dechrau ysmygu pan maen nhw’n blant. Yng Nghymru, rhwng 11 a 12 yw’r oed cyfartalog mae pobl yn dechrau ysmygu. Fodd bynnag, pan maen nhw’n oedolion, mae’r mwyafrif helaeth o ysmygwyr yn dweud y byddai’n dda ganddynt allu rhoi’r gorau iddi. Mae hyd at hanner yr holl bobl sy’n ysmygu’n ceisio rhoi’r gorau iddi bob blwyddyn, ac mae’r graddau y maent yn llwyddo yn amrywio. Y ffaith syml yw nad penderfyniad gwybodus gan oedolyn yw ysmygu.
 

I’r rhan fwyaf o bobl, mae’n gaethiwed a ddatblygodd pan oedden nhw’n blant. Fodd bynnag, mae modd rhoi’r gorau i ysmygu ac mae yna nifer o ffyrdd o wneud hynny. Y peth pwysig i’w gofio yw bod modd rhoi’r gorau i ysmygu hyd yn oed os oes raid i chi geisio gwneud nifer o weithiau. Daliwch ati a pheidiwch â rhoi’r gorau i roi’r gorau iddi!
 

Gall buddion rhoi’r gorau iddi fod yn anferth i’ch iechyd, i’ch poced ac i’ch pryd a gwedd. Gallwch hefyd ddiogelu’ch teulu a’ch ffrindiau rhag mwg ail law trwy wneud eich cartref a’ch car yn ddi-fwg.
 

  1. Taflenni gwybodaeth am roi’r gorau iddi.
  2. Cewch wybod mwy am y gwasanaethau cymorth arbenigol i’ch helpu i roi’r gorau iddi yma 
  3. Mae Quitex yn rhoi cymorth rhyngweithiol i bobl sydd eisiau rhoi’r gorau i smygu.

Defnyddiwch ein hofferyn ar-lein i roi’r gorau i ysmygu, Quitex, i’ch helpu i benderfynu ar y dull gorau i chi. Mae Quitex wedi cael ei gynllunio gan arbenigwyr yn y Decision Laboratory ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda chymorth gan arbenigwyr mewn rheoli tybaco.

Ash Wales is supported by

 Wales Council for Voluntary Action      img   Millennium Volunteers    Welsh Government