Ceir Di-fwg
Mae ASH Cymru’n cefnogi Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn ei ymgyrch i wahardd smygu mewn ceir pan fo plant yn bresennol.
Barn y cyhoedd
Mae yna gefnogaeth gref gan y cyhoedd i waharddiad. Mae 4 o bob 5 oedolyn yng Nghymru (83%) eisiau i waharddiad gael ei osod ar smygu mewn ceir sy’n cludo plant iau na 18 oed (arolwg gan YouGov yn 2011) a bu cefnogaeth gref yn gyson dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Ym mis Gorffennaf 2011 cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru ei bod yn bosibl mai Cymru fyddai’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wahardd smygu mewn ceir sy’n cludo plant.
Beth rydyn ni ei eisiau
Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn newyddion da iawn ond rydyn ni hefyd eisiau i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth ochr yn ochr ag ymgyrch iechyd y cyhoedd. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i bleidleisio dros wahardd smygu mewn mannau cyhoeddus, ac rydyn ni angen i Lywodraeth Cymru fod yn ddewr ac arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig ar y mater pwysig hwn ym maes iechyd y cyhoedd.
Ymchwil
I gael mwy o wybodaeth am y ffeithiau a’r ymchwil diweddaraf ynghylch smygu mewn ceir gweler taflen ffeithiau ASH Cymru yma.




