Quantcast

Buddion Rhoi'r Gorau i Ysmygu

Mae’r rhan fwyaf o ysmygwyr yn dweud eu bod eisiau rhoi’r gorau i ysmygu, ond i’r mwyafrif mae’n anodd eithriadol gwneud hynny. Fodd bynnag, gall buddion rhoi’r gorau iddi fod yn enfawr i’ch iechyd ac i’ch poced. Ar ôl i chi roi’r gorau i ysmygu, bydd eich corff yn dechrau ymadfer yn yr 20 munud cyntaf. A bydd hyn yn parhau.

Felly beth yw buddion rhoi’r gorau i ysmygu?


Mae tybaco’n arbennig o niweidiol i’ch croen. Mae’n rhaid i bawb wynebu’r broses heneiddio rywbryd, ond mae ysmygu’n cael nifer o effeithiau andwyol ar eich pryd a gwedd. Mae’r rhain yn cynnwys:

• heneiddio’r croen yn gynamserol;
• rhychau ar yr wyneb,
• bochau pantiog,
• bysedd ac ewinedd drwg eu lliw,
• anadl drwg,
• a dannedd a deintgig â staeniau arnynt.

 

Drwy roi’r gorau i ysmygu, byddwch yn helpu i leddfu rhai o’r effeithiau mae ysmygu’n eu cael o ran heneiddio’r croen yn gynamserol.

Mae Nerys Evans AC wedi cytuno’n garedig i fodelu’r effaith mae ysmygu’n ei chael ar eich pryd a gwedd. Mae Nerys nad yw’n ysmygu ar y chwith ac mae Nerys sydd wedi heneiddio’n gynamserol oherwydd ysmygu ar y dde.


Dychmygwch faint o arian ychwanegol fydd yn eich poced ar ôl i chi roi’r gorau i ysmygu. Mae’n anhygoel meddwl faint o arian rydych chi wedi’i wastraffu dros y blynyddoedd ar ysmygu.

Bydd ein cyfrifiannell yn dangos i chi faint o arian yn union y gallech ei arbed.


Mae yna rai buddion i’ch iechyd ar unwaith o roi’r gorau iddi. Mae’r rhain yn cynnwys:

Ar ôl 20 munud, mae’ch pwysedd gwaed a churiad eich calon yn mynd yn ôl i normal.
Ar ôl 1 awr, mae’ch corff yn dechrau cael gwared ar wenwynau tybaco.
Ar ôl 8 awr, mae lefelau nicotin a charbon monocsid yn y gwaed yn gostwng hanner, ac mae lefelau ocsigen yn mynd yn ôl i normal. Mae cylchrediad y gwaed yn gwella.
Ar ôl 24 awr, mae carbon monocsid yn cael ei waredu o’ch corff, mae’ch ysgyfaint yn dechrau clirio, ac mae’ch siawns o gael trawiad ar y galon yn dechrau lleihau.
Ar ôl 48 awr, ’does dim nicotin ar ôl yn eich corff, ac mae’ch synnwyr blasu ac arogleuo’n dechrau gwella. Mae’n haws i chi anadlu ac mae’ch lefelau egni’n codi.


Yn y tymor hir mae’r buddion yn cynnwys:

Ar ôl 2-12 wythnos, mae cylchrediad y gwaed yn gwella trwy’ch corff i gyd, gan ei gwneud yn haws i chi gerdded.
Ar ôl 3-9 mis, mae pesychu a gwichian yn lleihau.
Ar ôl 1 flwyddyn, mae risg trawiad ar y galon yn gostwng i hanner y risg sydd gan ysmygwr.
Ar ôl 10 mlynedd, mae risg canser yr ysgyfaint yn gostwng i tua hanner y risg sydd gan ysmygwr.
Ar ôl 15 mlynedd, mae risg trawiad ar y galon yn gostwng i’r un risg ag sydd gan rywun nad yw erioed wedi ysmygu.
 

Taflenni Gwybodaeth i Roi'r Gorau i Ysmygu

Ash Wales is supported by

 Wales Council for Voluntary Action      img   Millennium Volunteers    Welsh Government